06/03/2008

Sut i ddefnyddio blog?

Bydd yn ofynnol ichi logio i mewn i'r blog cyn y gellwch ychwanegu neges. Gofynnwch i'r Prifathro am yr enw a'r gair cyfrin sydd eu hangen.

I greu neges newydd pwyswch ar 'new post'. Rhowch deitl i'ch neges a lluniwch eich neges yn y blwch hirsgwar.

I gynnwys llun pwyswch ar yr eicon sydd â llun arno. I gynnwys ffilm pwyswch ar yr eicon â stribed o ffilm arno.

I greu dolen gyswllt (e.e. gyda gwefan Ysgol Carreg Hirfaen) pwyswch ar yr eicon sydd â llun o glip papur arno.

Mae'n fater o arfer dda creu llabedi ar gyfer negeseuon fel y bo'n hawdd chwilio am ddeunydd pan fydd y blog wedi tyfu. Gall natur y llabedi amrywio. Awgrymaf y dylid nodi pwnc, blwyddyn dosbarth ac enw disgybl. Bydd yn hawdd wedyn i rieni ddod o hyd i waith eu plant ac yn hawdd i athrawon ddod o hyd i bwnc arbennig. Wrth greu llabedi defnyddiwch lythrennau bychain ac ysgrifennwch ymadroddion ac enwau fel un gair (e.e. owenthomas yn lle Owen Thomas).

Pan fyddwch yn barod i roi eich neges ar lein pwyswch ar 'publish post'. A dyna'r cyfan sydd ei angen.

Pob hwyl,

Owen

Croeso

Croeso i flog Oes Victoria lle y cewch weld gwaith y disgyblion ym maes Hanes.